Ymaelodwch
- gwenllevs
- Aug 27
- 2 min read
Updated: 7 days ago
English below
Mae'r amser wedi dod i wneud cam pwysig er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy i'n cymuned leol. Rydym wedi cytuno ar bris i brynu Tafarn y Wynnes fel ased gymunedol, ac rydym eisoes wedi llwyddo i godi bron i hanner y cyllideb sydd ei hangen arnom. Yn wyneb y duedd i wasanaethau a gofodau cymunedol gau, mae ein cymuned yn cymryd camau cadarnhaol i wrthsefyll hyn trwy ddod ynghyd i gymunedoli ein hasedau a'u diogelu ar gyfer datblygiad cymunedol, cynnal economi leol a hybu cymdeithasu.
Rydym yn anelu at godi £75,000 o’r Cynnig i Brynu Cyfranddaliadau, sy’n agored i'r gymuned ac i'r cyhoedd yn gyffredinol. Mae'r targed wedi ei osod ar sail cost prynu’r dafarn (£110,000), costau cyfreithiol, ac arian tuag at y gwaith adnewyddu. Mae grant o £50,000 wedi’i ddiogelu tuag at y pryniant, ond rhaid codi'r gwahaniaeth trwy gyfranddaliadau o gronfa SPF!
Mae prynu cyfranddaliadau yn eich gwneud chi'n Aelod o'r gymdeithas ac yn rhoi llais i chi ar sut mae'n cael ei rhedeg. Mae gan bob aelod un bleidlais, waeth faint o gyfranddaliadau maen nhw'n eu prynu. Mae'r isafswm cyfranddaliad yn £50, a'r uchafswm yn £10,000.
Ymunwch â Ni
Rydym yn gwahodd ein cymuned i ymuno â ni yn y fenter gyffrous hon, i sicrhau dyfodol gwell i'n pentref a'i drigolion. Dewch yn rhan o'r newid positif hwn a chymryd rhan mewn creu cymuned gryfach, mwy cynaliadwy.
Cynllun Siars / Share proposal
Community Initiative to Buy Wynnes Pub: A Step Towards Sustainability
The time has come to take an important step to ensure a sustainable future for our local community. We have agreed a price to buy the Wynnes Pub as a community asset, and we have already managed to raise almost half of the budget we need. Faced with the tendency for community services and spaces to close, our community is taking positive steps to counter this by coming together to communitize our assets and protect them for community development, sustaining the local economy and promoting socialising.
We are aiming to raise £75,000 from the Share Purchase Offer, which is open to the community and the general public. The target has been set based on the cost of buying the pub (£110,000), legal costs, and money towards the renovation. A grant of £50,000 has been secured towards the purchase, but the difference must be raised through shares.
Buying shares makes you a Member of the society and gives you a say in how it is run. Each member has one vote, regardless of how many shares they buy. The minimum share is £50, and the maximum is £10,000.
Join Us
We invite our community to join us in this exciting initiative, to ensure a better future for our village and its residents. Be part of this positive change and take part in creating a stronger, more sustainable community.
Business Plan
Cynllun Siars / Share proposal
Comments